Lindsay Winterbourne

A photo of Lindsay Winterbourne

Dweud ychydig amdanoch chi

Lindsay ydw i, Rheolwr Hyfforddiant a Gweithrediadau TIS Cymru, a Coral (😋) ddaeth â mi yma ar ôl gweithio ym myd addysg am dros 25 mlynedd mewn ysgolion prif ffrwd ac arbennig lle taniwyd fy angerdd dros gefnogi plant sy’n wynebu her. Rwyf wedi fy lleoli yn ne-ddwyrain Cymru ac rwy’n byw mewn ‘prosiect’ o’r unfed ganrif ar bymtheg! Y tu allan i’r gwaith, rydw i wrth fy modd yn treulio amser gyda fy wyrion a wyresau, yn ffanatig rygbi, yn mwynhau garddio, cerdded a bod yn yr awyr agored wedi ymgolli ym myd natur rhyfeddol Prydain. 

Beth hoffech chi i bawb wybod am gyrsiau TIS?

Rwyf am i aelodau’r cwrs wybod y bydd cwblhau'r diploma yn newid bywydau; bydd yn eich grymuso ac yn eich galluogi i newid bywydau plant a phobl ifanc er gwell.

Fy hoff jôc?

Dwi’n adnabyddus am fy anallu i gofio jôcs… dwi fel arfer yn anghofio’r punchlines ond dwi’n cofio un ddywedodd fy merch pan oedd hi’n dair oed, ‘Pam fod gan jiráffs yddfau hir?’ … ‘Am fod ganddyn nhw draed drewllyd!’

Cyfarfod â'r Tîm